OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1014 (Cy. 70)
GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB, CYMRU
pensiYNAU, CYMRU
Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (sydd wedi ei nodi yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (O.S. 1992/129)) (“y Cynllun”) fel y mae’n cael effaith yng Nghymru.
Mae Rhan A1 o Atodlen 8 i’r Cynllun yn nodi’r cyfraddau cyfrannu sy’n daladwy gan aelodau, ac a benderfynir drwy gyfeirio at y band tâl pensiynadwy cymwys. Mae’r Gorchymyn hwn yn amnewid y tabl yn Rhan A1 i ddarparu codiad blynyddol o un y cant yn y bandiau tâl hyd at 2018.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth y Gangen Tân a’r Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy alw 0300 062 8221.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1014 (Cy. 70)
GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB, CYMRU
pensiYNAU, CYMRU
Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2015
Gwnaed 30 Mawrth 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 31 Mawrth 2015
Yn dod i rym 1 Ebrill 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 26(1) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1.—(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y
Dynion Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2015.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2015.
Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992
2.—(1)(1) Mae Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion
Tân 1992([3]) (lle y mae Cynllun
Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) wedi ei nodi), fel y mae’n
cael effaith yng Nghymru, wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle’r Tabl ym mharagraff 3 o Ran A1 o Atodlen 8, rhodder y Tabl a ganlyn—
“Pensionable pay |
Contribution rate from 1 April 2015 to 31 March 2016 (percentage of pensionable pay) |
Up to and including £15,150
|
11.0% |
More than £15,150 and up to and including £21,210 |
12.2% |
More than £21,210 and up to and including £30,300 |
14.2% |
More than £30,300 and up to and including £40,400 |
14.7% |
More than £40,400 and up to and including £50,500 |
15.2% |
More than £50,500 and up to and including £60,600 |
15.5% |
More than £60,600 and up to and including £101,000 |
16.0% |
More than £101,000 and up to and including £121,200 |
16.5% |
More than £121,200
|
17.0% |
Pensionable pay |
Contribution rate from 1 April 2016 to 31 March 2017 (percentage of pensionable pay) |
Up to and including £15,301
|
11.0% |
More than £15,301 and up to and including £21,422 |
12.2% |
More than £21,422 and up to and including £30,603 |
14.2% |
More than £30,603 and up to and including £40,804 |
14.7% |
More than £40,804 and up to and including £51,005 |
15.2% |
More than £51,005 and up to and including £61,206 |
15.5% |
More than £61,206 and up to and including £102,010 |
16.0% |
More than £102,010 and up to and including £122,412 |
16.5% |
More than £122,412
|
17.0% |
Pensionable pay |
Contribution rate from 1 April 2017 to 31 March 2018 (percentage of pensionable pay) |
Up to and including £15,454
|
11.0% |
More than £15,454 and up to and including £21,636 |
12.2% |
More than £21,636 and up to and including £30,909 |
14.2% |
More than £30,909 and up to and including £41,212 |
14.7% |
More than £41,212 and up to and including £51,515 |
15.2% |
More than £51,515 and up to and including £61,818 |
15.5% |
More than £61,818 and up to and including £103,030 |
16.0% |
More than £103,030 and up to and including £123,636 |
16.5% |
More than £123,636
|
17.0% |
Pensionable pay |
Contribution rate from 1 April 2018 (percentage of pensionable pay) |
Up to and including £15,609
|
11.0% |
More than £15,609 and up to and including £21,852 |
12.2% |
More than £21,852 and up to and including £31,218 |
14.2% |
More than £31,218 and up to and including £41,624 |
14.7% |
More than £41,624 and up to and including £52,030 |
15.2% |
More than £52,030 and up to and including £62,436 |
15.5% |
More than £62,436 and up to and including £104,060 |
16.0% |
More than £104,060 and up to and including £124,872 |
16.5% |
More than £124,872
|
17.0%”. |
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
30 Mawrth 2015
([1]) 1947 p. 41. Diddymwyd adran 26 gan adran 52 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) ac Atodlen 2 i’r Ddeddf honno. Mae is-adrannau (1) i (5) o adran 26 yn parhau i gael effaith o ran Cymru at ddibenion y cynllun a sefydlwyd o dan yr adran honno, sef Cynllun Pensiwn y Dynion Tân, ac a nodir yng Ngorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (O.S. 1992/129), yn rhinwedd erthygl 3 o Orchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2918 (Cy. 257)). Newidiwyd enw’r Cynllun i Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) gan erthygl 4 o’r offeryn hwnnw.
([2]) Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 26 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Trosglwyddwyd y swyddogaethau yn ddiweddarach i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).